Gwirwyd y dudalen hon
Mae'r du waelodion fel ellyllon certh |
GOLYGFA.
DYSTYRCH gwyn y tonnau llidiog
Hyrddid hyd yr asur wybr,
Ac orhwng y llif cynddeiriog
Gwaelod moroedd amlwg lwybr;
Ol a blaen y llong ymsaethai
'N wallgo'n y rhyferthwy gwyrdd,
Ac ysgrechai yr hwylbrennau
Fel ellyllon duon fyrdd.