Tudalen:Gwaith Gwilym Marles.pdf/108

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

MEDDYLIAU.

MEDDYLIAU prudd a godent dan ei fron,
O dryblith torf profiadau'r amser fu;
Amcanion unwaith wnaent ei fryd yn llon,
Oent wasgaredig, ysigedig lu;
Fel wedi tymest!, main gorsennau yd,
Yn danfa drist, heb degwch ac heb bryd;

Fel teithiwr a ddisgwyliai gyda'r wawr
Fod draw ymhell cyn gwres y canol ddydd;
Ond ar boeth adeg nawn mewn blinder mawr,
Cloff a lluddedig yn ymlusgo fydd ;
A phan yr haul ar ogwydd tua'r môr,
I gynnar orffwys try, heb nerth yn stor.

Pa beth yw un ar gyfer gwae y byd?
Rhyw un dyferyn yn yr eigion yw;
Fel mewn ystorm llais baban yn y cryd,
Ymysg y dyrfa fawr llais proffwyd byw;
Tyr llawer calon yn yr ymgais boeth
I wneyd y byd yn gyfiawn ac yn ddoeth.

Mae drygau hen fel ysol gancar du
Wrth galon fawr cymdeithas i'w hiachau,
Fel gwreiddiau'r onnen dal, yn ddirfawr lu,
Am amser lledu buont a dyfnhau;
Ond ef, y proffwyd ieuanc, gwyd yn gawr
Fel pe yn meddu'r feddyginiaeth fawr.

Ond fel wrth odre'r graig y cura'r don,
Ei distyrch gwyn yn gafod yn y nef;
Er cilio ennyd, gyda llawnach bron,
Ymddryllia eilchwyl gyda rhuol lef;
Y graig ni syfl, ond saif ar feiddgar foes ;
Ac felly'r drygau ydynt bla ein hoes.