Tudalen:Gwaith Gwilym Marles.pdf/20

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

MYNWENT CWMWR DU.

OS caret gael gorweddfa glyd
Ymhell o ddwndwr byd a'i drin,
Ar lan murmurog afon ferth
A choed yn berth ar ei dwy fin;
Pa le caet lannerch fa'i mor gu
A mynwent fechan Cwmwr Du?

Hwy wedant cwsg y byw yn well
Heb fod ymhell o si rhyw don,
Pan ddeffry miwsig per y llif
Ddi-rif freuddwydion tan y fron;
Nis gwn; ond pwy na charai fedd
Lle chwery'r ffrwd ei salm o hedd?

Fe grwydra haf awelon per
Trwy lathraidd dderw'r allt sy draw,
Pob dalen yn cyd-odli'n fwyn
Ar gainc pob llwyn â'r ffrwd islaw;
Ac weithiau yn y gaeaf trwm
Ysguba'r corwynt trwy y cwm.

Mae masnach ar ei diwyd daith,
A dyfais dyn ar waith o hyd,
Newidia llawer man ei wedd,
Anurddir heddwch bore byd;
Ond yma, pe doi'r hen ar hynt,
Caent bob peth agos megis cynt.

Oedd yma fwci 'stalwm byd,
Pan oedd y rhyd heb bont yn groes,
Dyn yn grogedig wrth ei draed,—
Fe rewai'r gwaed weld y ddwy goes;
Pan godwyd pont ar Gloidach ddu,
Fe aeth y bwci gyda'r lli!