Tudalen:Gwaith Gwilym Marles.pdf/32

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ein gwlad ni yn nesu at ei therfyn. Megis ag y mae peiriannau yn awr yn gwneyd gwaith llifwyr a dyrnwyr, ac aradwyr a medelwyr hefyd mewn llawer man; felly gan bwyll, caiff cloddiau wedi eu coroni â drain yspyddaid, cyll a meillion Yspaen, ynghyd â chŵn da, wneyd gwaith ein bugeiliaid presenol. Tuedd yspryd yr oes, yr hwn nis gellir yn hir ei wrthsefyll, yw cael dyn i dir uwch, rhoddi iddo faes rhagorach i lafurio, gwneyd mwy tuag at ddiwyllio ei feddwl, gwneyd llai o beiriant, a mwy o ddyn o hono. Mae rhy fach o wahaniaeth yn awr rhwng y bugail a'i gi. Trueni mawr nad yw y blaenaf gyda ni yn yr Ysgol Sabbothol, ac na chai yn yr oedran tyner hyn dreulio mwy o'i amser yn yr ysgol ddyddiol. Gwyddom am feistri ein bugeiliaid eu bod, fel rheol gyffredin, yn ddynion synwyrol, a llawn o ddymuniadau caredig i'r rhai sydd o dan eu gofal. Ond gwaith anhawdd yw iddynt ymryddhau oddiwrth hen arferion a welsant erioed. Y cwestiwn pwysig yw, Pa fodd i barotoi y ffordd i gyfnod gwell? Pa fodd i roddi cyfle i'n plant hyn i ymgymysgu gyda ni, haf a gaeaf, yn ein haddoliadau cyhoeddus, a'n hysgolion Sabbothol?

Gan fod ein lle yn brin ni chawn wneyd rhagor yn awr na diweddu gydag ychydig linellau o brofiad bugeilaidd un o oreuon bugeilaidd Sir Aberteifi:—

"Ar y banc mewn rhedyn tewon,
Rhwng y defaid a'r da duon,
Syrthiais gyntaf ar fy neulin;
Wedi syrthio, ffaelu erfyn;
Edrych fyny, edrych waered
Am wel'd Duw, a ffaelu'i weled;