Tudalen:Gwaith Gwilym Marles.pdf/31

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ddau. Mae adnabod "nodau " ei ddefaid ei hun, a "nodau" defaid ei gymydogion, yn hanfodol i fugail—pen-lleswch, bwlch temig, cwart, peint, bwlch trithoriad, gyda'r holl amrywiaethau di-ddiwedd o honynt. Un o'r profion goreu o fugail da yw y gŵyr os bydd ond un ddafad ar ddisperod heb rifo, ond gorfydd ar yr hwyrdrwm i rifo. "Parry," ebe meistr unwaith wrth fugail, hytrach pen-feddal, "a rifaist ti y defaid heddyw?" "Pa'm, do meistr, mi rhifes i nhw bob un," atebai Parry, "ond yr hespin gyrnig gnaciog gynllwyn yna, yr hen sprotiast fwya eger yn y pac; 'r o'dd hi yn neid'o yn ol ac yn mla'n, fel 'tasa gyndron ynddi, a 'dalls'wn i yn 'y myw a'i rhifo hi." Ond yr oedd bugail arall, mwy gwirion-ffol fyth, er hynny a thalent odiaeth —er nas gallai rifo rhagor na phump, eto allan o gant neu fwy o ddefaid, adnabyddai yn union os byddai un ar goll. Yr oedd ganddo farc o'i eiddo ei hun ar bob llwdn yn y ddeadell.

Swydd anrhydeddus a hen yw swydd bugail. Mae gan fugeiliaid enwogion lawer i ymffrostio ynddynt. Mae mwynderau luaws hefyd yn perthyn i'r gwaith. Bywyd llawen, iachus, ar y cyfan, yw bywyd y bugeiliaid bychain hyn. Melus yw eu chwibaniad ben bore wrth ymlwybro trwy'r gwlith—iach eu hysbryd wrth yfed yr awelon pêr a dramwyant dros erddi a pherllanau, gwinllanoedd a maesydd ŷd, a thros y moroedd llydain a amgylchant ein daear—ysgafn eu calon wrth ddychwelyd yn yr hwyr gyda machludiad haul i gysgu'n ddifraw a difreuddwyd nes i wawr newydd dorri ar y bryniau. Er hyn oll ni a gredwn, ac o obeithiwn, fod oes y bugeiliaid yn