Tudalen:Gwaith Gwilym Marles.pdf/30

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Yn yr hen amser, ac yn nghof rhai eto yn fyw, yr oedd rhialtwch digyffelyb yn cael ei gynnal gyda ffest Awst. Gwledd oedd hon ar ben y banc ar y 12fed o Awst, yn ol y cyfrif newydd; ymgynullai iddi holl fugeiliaid y ffermydd nesaf i'w gilydd, a dygai pob un ei gyfran—picnic bugeiliol oedd. Edrychid ymlaen at hon trwy fisoedd o godi yn fore, a gwres a gwlawogydd, ac ystyrrid hi yn ddigon o dâl am bob trafferth.

O ddamwain, ond yn dra anfynych, gwelir bugeiliaid yn darllen pan fo hamdden ganddynt. Adwaenom hen wr a ddysgodd ddarllen wrth. ymladd â Llyfr Ficer, ac a'i darllenodd drwyddo wrth fugeilio pan tua deuddeg oed. Eto eithriad yn hytrach yw yr arferiad o ddarllen, er fod y nifer luoso.af efallai o'r rhai ydynt dros ddeuddeg oed yn medru, gan y cant fyned i'r ysgol yn y gaeaf. Colled fawr y bugeiliaid yw na chaniateir iddynt, o Ebrill i Fedi neu Hydref o bob blwyddyn, i fyned i na chwrdd nac ysgol. Mae Sul a gwyl yr un peth iddynt hwy. Gormod o gaethiwed yw hyn—camwedd â'r oes sydd yn codi. Yr unig gyfle a gant i dreulio Sabbath gartref yw, pan ddelo tad neu frawd i fugeilio yn eu lle. Rhont dro gartref ar y cyfan unwaith bob wythnos i newid eu dillad, ond yn fynych hwy a orfodir i newid eu crysau bychain ar ben y banciau, yn yr awyr agored.

Bydd rhai o'r bugeiliaid, fel y gellid disgwyl, yn llawer cyflymach nag eraill i adnabod y defaid. Dysg ambell un i adnabod pob llwdn allan o ryw gant neu ddau o ddefaid mewn diwrnod neu