Tudalen:Gwaith Gwilym Marles.pdf/29

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

amgylchiadau enbyd iawn, ychydig ddefnydd a wneir o un o'r dyfeisiau hyn—eto gwneir weithiau ar dywydd eithaf drwg. A bydd y bugail bach yn ei gaban o dyweirch, pan.

"Mae'r awel yn chwythu uwchben a chwibanu,
Ac acw'r hwrdd torddu yn llechu'n y llwyn" (eithin),

yn llawn mor ddedwydd a didaro, os nad mwy felly, a'r pendefig yn ei balas. Bydd Moss yno yn ysgwyd ei gynffon wleb wrth ei draed, a'i lygad llon gystal a dweyd—tamaid yn awr. Y gwaethaf am dani yw, nad yw y bugeiliaid yn ddigon gofalus am newid, os yn wir y bydd ganddynt ddillad i'w newid, pan elont adref; ac oblegid esgeulusdod o'r fath hyn, dystrywia rhai o honynt eu hiechyd am eu hoes. Ond hwy a fwynhânt eu hunain ar dywydd teg. Ceir hwy yn gorweddach ar bennau y cloddiau moelion, weithiau ar eu cefnau, ac weithiau ar yr ochr arall; a digwydd i'r ddau lygad gau yr un pryd weithiau, a thros yr amser hwnnw Moss fydd yn y gader fugeiliol. Nid yw yn ddiogel er hynny i hepian, gan na ŵyr y bugail "pa bryd y daw ei arglwydd." Peth arferol yw gweled bechgyn wrth fugeilio yn gwau hosanau. Gweuant ryw ddeubar iddynt eu hunain, o leiaf, bob haf, o edafedd a roddir iddynt gan eu meistres. Yr oedd mwy o wau amser yn ol nag sydd yn awr. Y tâl arferol am wau pâr oedd chwecheiniog.

Trinir bugeiliaid yn y cyffredin gyda charedigrwydd mawr, a derbyniant, os yn ofalus, yn ystod, ac ar ddiwedd y tymor, lawer o wobrau mewn ffordd o ddillad neu ddefnyddiau dillad. Amrywia y gyflog am y tymor o chweugain i bunt neu bymtheg ar hugain.