Tudalen:Gwaith Gwilym Marles.pdf/28

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Offeryn defnyddiol yw y gyllell iddo, os digwydd ddyfod o hyd i ryw damaid o bren, pe na fyddai ond bonyn eithinen, i arfer ei scil arno ar funudau segur. Bydd ganddo hefyd bastwn golygus, wedi tyfu dichon gryn filldiroedd o'r man lle y bydd yn bugeilio. Hon yw ei fagl esgob neu ffon gnwpa,—

"Gwae ni cheidw ei gail, ac ef yn fugail,
A'i ffon gnwpa.

Mae iddo hefyd ei wisg offeiriadol—côt y bugail. Côt lwyd drwchus, wedi ei gwneyd o wlan y ddafad yn ei gyflwr naturiol yw, llaes heb fotyman, oddigerth botwm i'w sicrhau o amgylch y gwddf ar dywydd garw, yn cyrraedd i lawr rhwng y groth a'r figwrn. Y meistr yn gyffredin sy'n darparu hon, a disgwylia iddi bara o leiaf dair blynedd. Mae fynychaf heb logell. Ar dywydd gwlawog a thymhestlog, hon yw cyfeilles oreu'r bugail. "Umbrella?" medd rhywun. Umbrella yn wir! Pwy welodd fugail yn ceisio dal y fath beth yn ei law ar fanciau Sir Aberteifi? Gellid yr un mor rhesymol ddisgwyl cwrdd âg arch Noah yno a disgwyl cwrdd â bugail yn cario umbrella. Byddis hefyd weithiau yn codi tŷ bugail—rhyw adeilad drosgl o dyweirch a cherrig yng nghongl cae, yn erbyn dau glawdd, os ceir o hyd i'r fath beth, a thwll yn yr ochr, iddo wthio ei ben a'r rhan uchaf o'i gorff i mewn, gan dybied wedi hyn, fel yr estrys, ei fod yn ddiogel. Gwasanaetha hen gasgen fawr weithiau yn well na'r caban, am ei bod yn symudol. Torrir drws mawr i fyned i mewn iddi, a gyferbyn âg ef yn yr ochr arall torrir drws bychan, yn lle ffenestr, i edrych allan drwyddo. Ond oddieithr mewn