Tudalen:Gwaith Gwilym Marles.pdf/27

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

y ddau lygad, yr hyn a ddigwydd i ddynion ar brydiau. Un o'r pethau cyntaf a wna bugail yw ceisio dyfod i delerau o ddealltwriaeth a chyfeillgarwch â'i gi. Seremoni lled bwysig yw dwyn ambell i gi a bugail i adnabyddiaeth â'u gilydd, yn enwedig pan fo'r naill neu'r llall, neu bob un o'r ddau, yn yswil, a phwdlyd efallai yn y fargen. Y mae i bob ci bugail ei enw, ys dywedodd yr hen bregethwr am dano ei hun. Yr oedd hen bregethwr unwaith yn cael ei gyhoeddi ar ddiwedd yr oedfa, eithr nid wrth ei enw priodol fel y dylesid, ond trwy ddweyd, "Fe fydd y gwr dyeithr o'r gogledd yn llefaru ym Mwlch Cae Draw am chwech heno;" gyda hyn tynnodd y gwr dyeithr" ryw fwrlwm o cchenaid, a rhwchialodd dipyn yn fygythiol, a chan edrych i lawr yn gilwgus ar y cyhoeddwr, dywedodd, "Y mae i minnau fy enw!" Felly y dywedwn ninnau, "y mae i bob ci bugail ei enw." Megys y mae y Jonesiaid yn y wlad hon, felly y mae y Mossiaid ym mhlith cŵn defaid yr enw mwyaf cyffredin o ddigon. Enwau ereill ydynt Keeper, Cupid, Pincher, Tiger, Quito, Dido, Juno, Flora, Pertus, Fury, Markwell, Cwta, Bolwen, Troedwen, Driver, Thames, Fancy, Tango, Captain, Fan, Parrott; neu fel y galwai llanc ychydig yn dafodtew ef unwaith, o dan dipyn o gynhyrfiad nwydau, ac heb allu seinio y llythyren r, Pechod! Pechod!—enwau yn gofyn mwy o philosophi nag a feddwn ni, er egluro yn foddhaol y rheswm o honynt oll.

Mae i'r bugail ei arfau a'i wisg neillduol. Anaml yr anturia i'w swydd heb gyllell dda, a honno fynychaf wedi ei chlymu â chorden gref wrth un o rwylli neu un o fotymau ei wasgawd.