Tudalen:Gwaith Gwilym Marles.pdf/26

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

prysur esgyn o simne'r tŷ. Nid oes fymryn o eisiau cloc ar y gwr bach. Nid cloc drwg yw y bola, ac y mae gan Moss gryn amcan am yr amser, a gŵyr y praidd yn lled agos pa bryd y mae adeg canolddydd yn agoshau. Yn awr troir y defaid i'r buarth a'r da i'r cae nos, o leiaf gwneir y blaenaf. Arferid gynt i odro'r defaid a'r gwartheg hanner dydd, ond lled anaml y gwneir hyn yn awr. Wedi ciniaw dechreuir gyda blas ac egni newydd ar ddyledswyddau y prydnawn, a darperir yr un ffunud ag yn y bore ar gyfer angenrheidiau y bugail a'i was ffyddlawn—y ci. Nid yw y defaid yn y prydnawn i gael eu gadael i dramwy a phori yr un ffordd a'r bore. Aiff oriau y prydnawn heibio o un i un, a phan wel y bugail ei gysgod yn hwyhau, a'r haul yn gostwng i fachlud, ymbarotoa i droi ei ddefaid unwaith eto i'r buarth. Hebrynga y llall y gwartheg a'r da hespon i'w gorffwysfa dros y nos.

Un o anhebgorion bugail yw ei gi. Cystal y gallai gof wneyd heb ei forthwyl ai eingion—y teiliwr heb ei nodwydd—yr ysgolhaig heb ei lyfr —yr hwsmon heb ei aradr—a'r bugail heb ei gi. Cwn braf synwyrol yw y rhan fwyaf o honynt; eto, y mae rhai wedi eu bendithio a gwell talentau, a rhagorach manteision dysgu, ac o ganlyniad wedi graddio yn uwch nag eraill. Ond yn y cyffredin, cwn craffus, diniwed, ac yn gofalu am eu gwaith eu hunain ydynt. Maent o bob lliwiau, er y dichon mai y lliwiau amlaf ydynt y coch-ddu, neu lwyd, gydag ysmotiau duon afreolaidd. Rhyw lwyd-oleu yw llygad llawer o honynt. Weithiau bydd gwahaniaeth lliw rhwng