Tudalen:Gwaith Gwilym Marles.pdf/25

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

olaf a'r defaid ynghyd. Maent i gadw eu praidd o fewn y terfynau gosodedig, ac i'w gwylied yn neillduol rhag torri i'r caeau ŷd cyfagos. Mae arnynt i ofalu dyfrhau y gwartheg a'r da duon ryw dair neu bedair gwaith y dydd, os na fydd cyfleusderau dwfr ar y tir lle y byddont yn pori. Mae yn debyg nad yw y defaid yn yfwyr mor drwm ag eraill o'r praidd, am eu bod yn llai o faint, ac am y disycheda y gwlith hwynt i raddau mawr; eto, ar dywydd poeth iawn, ceir eu gweled yn rhedeg yn yrroedd mawrion at ryw nant neu ffrwd fechan, ac yno y byddant, druain gwirion, tra yn lluddedu ac yn dyheu gan syched, yn llepian y dwfr yn rhestri hirion gyferbyn â'u gilydd ar bob ochr i'r nant.

Cwyd y bugeiliaid yn awr ychydig cyn pump, ond gynt codent gyda'r haul. Yn union cymerant foreubryd hwylus o sopen caws, wyneb maidd neu laeth glas, gyda bara; gofalant weled eu cwn yn cael eu diwallu; tarewir toc doniol o fara a chaws yn y llogell, a darperir tafell dda i wasanaethu fel anogaeth a gwobrwy i'r cwn hyd hanner dydd; canys ar ol cwrs da, ceir gweled Moss yn dychwelyd at y bugail, ac yn ei iaith yn ceisio tamaid. Y gwaith cyntaf fydd troi'r defaid allan o'r buarth, gynt wedi eu godro, ond yn awr, gan amlaf, heb eu godro, a'u hebrwng i'r banc. Aiff y bugail arall â'r gwartheg i'w porfeldir priodol, neu i hol y da hespon o'r cae nos. Yna erys pob un gyda'i braidd ei hun. Erbyn y bydd yr haul wedi dirwyn ym mhell tua chymydogaeth y de, a phan y mae'r toc eisoes wedi hir ddiflannu o'r golwg, bydd llygad hiraethlawn yn cael ei daflu yn fynych i wylio'r mwg sydd yn awr yn