Tudalen:Gwaith Gwilym Marles.pdf/24

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

enwedig meibion, caiff pob un o'r rhai hyn yn ei dro, pan yn yr oedran priodol, ymaflyd yn y gorchwyl. Fel hyn y mae y bywyd bugeiliol yn derfyn ar fywyd y bara segur, ac yn ddechreuad y cyfnod pan y gorfydd i bob un gyfansoddi esponiad o'i eiddo ei hun ar yr hen air, "Trwy chwys dy wyneb y bwyttai fara." Mewn amser dyfodol cawn nifer luosog o'n bugeiliaid, cyn priodi, yn wasanaeth-ddynion parchus, ac wedi priodi, yn weithwyr fferm diwyd, yn dwyn i fyny ar eu hennill caled deuluoedd mawrion. Bydd eraill yn dyddynwyr mwy neu lai llwyddianus a chyfrifol, a chanddynt ddeadelloedd lluosog o'r eiddynt eu hunain, pyrsau a choffrau llawnion, a chryn ddylanwad yn yr ardal. Nid bychan ychwaith yw nifer y rhai a fuont unwaith yn bugeilio praidd eu rhieni neu braidd dyeithriaid, ar hyd fryniau Ceredigion, ond a dderchafwyd ar ol hynny, wedi llafur ac ymroad mawr mewn ysgolion a cholegau, a phrif-ysgolion, i fugeiliaeth uwch i borthi praidd Duw, gan fwrw golwg arnynt." Mae llawer o'r cyfryw y dydd hwn yn weinidogion parchus, a rhai o honynt yn enwog am eu dysg, eu doethineb, neu eu hyawdledd, gyda phob enwad o grefyddwyr yn Nghymru.

Mae yr allwedd i ddysg, i barch, a phob rhin,
Yn crogi wrth wregys diwydrwydd di-flin.

Gwaith y bugail yw edrych ar ol y gwartheg, y da hespon— da duon" yr hen fardd o Gastell Hywel—a'r defaid. Bydd weithiau felly dri bugail, ond fynychaf gwneir y tro ar ddau, yn enwedig os bydd godre'r fferm yn gauedig a pherthog: un ar ol y defaid, y llall ar ol y gwartheg neu y da hespon, neu ynte ar ol yr