Tudalen:Gwaith Gwilym Marles.pdf/23

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

rhan o'n gwlad am danynt ond drwy hanes.[1] Tebyg fod cyffelyb ddosbarth i'w gael mewn rhai rhannau o'n siroedd eraill, a dichon fod yr arferion perthynol i'r dosparth yno yn amrywio rhyw gymaint; ond bydd a fynno'r sylwadau hyn â bugeiliaid Sir Aberteifi. Nid y bugeiliaid cyflawn faint ar y mynyddoedd, y rhai a ddilynant eu swydd trwy y flwyddyn, cofier, ond y bugeiliaid bychain ar y ffermydd, neu fel eu gelwir yn fynych, "y bugelydd."

Yn y parth hwnnw o'r sir a ymestyna ar ei hyd o'r ochr isaf i Gapel Cynon i gryn bellder y tu hwnt i Dregaron, mae prinder cloddiau a pherthi, yn enwedig ar y rhannau hynny o'r ffermydd na chawsant hyd yn ddiweddar eu tynnu i mewn, neu ydynt eto yn aros heb eu cauad, yn gorfodi y ffermwyr i gadw bugeiliaid. Dechreuant ar eu gwaith tua mis Ebrill pan y bydd y defaid yn llydnu, a dilynant ef hyd ddiwedd y cynhaeaf neu ganol yr Hydref. Plant crynion fel eu gelwir, ydynt; bechgyn fynychaf, ond weithiau merched. Amrywia eu hoedran o ddeg i dair ar ddeg; ond flynyddau yn ol ceid rhai o bymtheg i ugain wrth y gwaith, ac ym mhellach yn ol na hynny, yr oedd personau na wnaethent nemawr i ddim erioed ond bugeilio. O'r ardal y bydd y plant yn gyffredin, a pherthynant yn fynych i rai o'r tai bach ar y tir. Ond os bydd plant yn y fferm, yn

  1. Erbyn hyn y mae bugeiliaid sir Aberteifi yn adnabyddus trwy'r gwledydd y darllennir Saesneg ynddynt. Trwy ei Welsh Witch a'i nofelau ereill, y mae Allen Raine, un o deulu Dafis o Gastell Hywel, wedi swyno cyhoedd Lloegr â'i darluniadau o fywyd ar fryn ac ar lan môr yn sir Aberteifi.— GOL.