Tudalen:Gwaith Gwilym Marles.pdf/42

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Y cloddiau'n goch o syfi,
Yr allt o lusw'n ddu,
A gofiai gyda thrymaidd
Ochenaid am a fu;
Fe welai nyth y fwyalch,
A'i chân a lanwai'r fro,
Yn awr yn noeth ac unig,
A'r crin-ddail drosti'n do.

Ar fainc o ddail sych—grinion
A rhedyn hanner gwyw,
A'r afon droellog obry
Yn murmur yn ei glyw,
Myfyrgar yr eisteddodd
Am ennyd wrtho'i hun;
Ond o'r rhigymau ganodd
Ar glawr nid oes yr un.

Pan gododd aethai heibio
Ryw dair o oriau chwai,
A haul prydnawn a eurai
Simneiau tal y tai;
Dychwelodd tuag adref,
A chri ei fynwes glaf,—
"Pa bryd daw eto'r Gwanwyn?
Pa bryd yr hyfryd Haf?"