Tudalen:Gwaith Gwilym Marles.pdf/43

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

YMWELIAD A HEN GAPEL PANT TEG

Ger Castell Newydd Emlyn, ar Sabbath yn Ebrill, 1864.

[Un o gapeli'r Bedyddwyr Cyffredinol yw Pant Teg, wedi ei godi yn 1764. O bryd i'w gilydd yn ystod y can mlynedd, mae tair o gynhulleidfaoedd o Fedyddwyr Neilltuol wedi myned allan, sef Dre Fach, Castell Newydd, a Rehoboth, ac un o Anibynwyr, sef Capel Iwan Mae y merched oll yn gryfach na'r fam, a rhai o honynt yn lliosog a llwyddiannus iawn. Eto, y mae yn y Pant Teg hyd yn hyn "ychydig enwau" yn aros.]

UN o dlysaf bantau natur,
Teg o hin a theg o rân,
Lle mae'r risial nant yn murmur
Hyd garegog wely glân;
A gwyrdd goleu'r pinwydd llathraidd
Dros y fron uwchlaw yn do,
A'r hen gapel llwyd yn gorwedd
Mewn unigedd yn y fro.

Yn y gwanwyn ar foreuddydd
Bydd y gân yn llond pob llwyn,
A lleddf awel brig y pinwydd
Fel anadliad natur fwyn;
Y coed eithin melyn—flodau
'N trwsio'r perthi yma a thraw,
Ac fel ser ar fin y llwybrau
Briall lliwus ar bob llaw.

Drwy y coed a thros y llethri,
Araf ddisgyn ambell wr,
Ond yn awr, ys amryw flwyddi,
"Nid i'r PANT y rhed y dŵr."
Oedir yn y fynwent ennyd,
Ger y fan lle mae rhyw un
Cu ac anwyl yn ei fywyd
Yn mwynhau yr olaf hûn.