Tudalen:Gwaith Gwilym Marles.pdf/44

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Gyda godre'r llechi llwydion,
Mewn dan gronglwyd yr hen dŷ,
Gyr yr iorwg gangau hirion,
Crogant ac ymsiglant fry,
Fel yn holi'n brudd o galon
Am y tadau,—" B'le maent hwy?"
Tra'r ateba'r seddau gweigion,—
"Aethant, ni ddychwelant mwy."

Dadfeiliedig yw y meinciau,
Ynt yn deneu hyd y llawr,
Rhai'n dwyn enwau hoffus dadau
Nad oes ond eu lle yn awr;
Dros y gynt epiliog Seion
Taen anghyfanedd—dra syn,
Os na ddaw rhyw angel tirion
Eto i gynhyrfu'r llyn.

Frodyr serchus a chwiorydd,
Cofiwch hen addewid Crist,
Ei braidd bychan yn y stormydd
Ef nis gad yn wan a thrist;
Lle cyn hyn bu llu o seintiau
'N diwyd drwsio lampau'u ffydd,
Glynwch yn eich disgwyliadau
Am weld toriad llon y dydd.