Tudalen:Gwaith Gwilym Marles.pdf/45

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

AR DDIWEDD CYNHAEAF 1864.

MAE bellach yr yd melyn
O fewn yr ydlan lawn,
A theg yw gwawr y soflydd
Yn llewyrch haul prydnawn;
Ond ambell faes a welaf
A'i gynnyrch ar ei fron,
Fel mam f'ai brudd i mado
A'i holaf blentyn llon.

Mae llawen drwst y fedel
Yn awr yn ddistaw llwyr,
Dan ganu aent y bore,
Dan ganu doent yr hwyr;
Cael llawer stori ddifyr
Wrth grymu uwch y grawn,
Neu orffwys yn y cysgod
Pan boethaf haul y nawn.

Wrth rwymo'r gwellt arianlliw,
A'r brig yn glychau aur,
Yn gyfor ymhob mynwes,
Pa hoen ac egni taer!
Yr eiddil henwr briglwyd
O'i gornel unig daw
I gynnull ambell ysgub,
A'i ŵyr bach yn ei law.

Yn ol ehed ei feddwl,
Yn ol am lawer blwydd,
Ac amal i gynhaeaf
A ddaw i'w gof yn rhwydd;
Wrth gofio'r cnydau hynny
Taen cwmwl dros ei wên,
A thybia braidd fod natur
Fel yntau'n mynd yn hen.