Tudalen:Gwaith Gwilym Marles.pdf/46

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Aeth dyddiau'r lloffa heibio
Pan grwydrai'r plantos mân
Yn dýrrau hyd y grynnau
I gasglu'r tywys glân;
Pob un a'i loffyn adre,
Fel teithiwr ddeuai'n ol
O wlad yr aur bellenig
A'i drysor yn ei gôl.

Yn gynnar lawer bore
I achub blaen y gwlaw,
Neu ar awelog hwyrddydd
A'r nen yn duo draw,
Y menni trystiog welwyd
Mor hwyrdrwm ar eu tro,
Bob un a'i llwyth i lanw
Ydlanau teg y fro.

Mi welais leuad Medi,
Yn ddisglaer ond yn brudd,
Er haf ac er cynhaeaf
Yn drist y par ei grudd;
O grwydro mhlith cymylau
Hi ddychwel, gannaid loer,
Hi ddychwel heb ei gwrthddrych,
Yn unig ac yn oer.

Dros lawer un y gwanwyn
A fu yn diwyd hau,
Fel dros yr had a heuai,
Mae'r irgwys wedi cau;
Ond eto'r ffrwyth ni phallodd,
A boed i ninnau oll
Egniol hau gan wybod
Nad aiff y ffrwyth ar goll.