Tudalen:Gwaith Gwilym Marles.pdf/47

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon


PA FANTEISION A GAWSOCH CHWI?

FEL yr oedd dau gyd-fyfyriwr yn y Brifysgol gerllaw yn rhodio un prydnawn teg ym mis Ebrill ar lan yr afon Clyde, arweiniwyd hwy i'r ymddiddan canlynol. Dylid coffhau mai wedi ei ffurfio yr oedd y gyfeillach rhyngddynt er y daethant yn adnabyddus â'u gilydd tua hanner y flwyddyn gyntaf o'u harosiad yn y Brifysgol. Nis gwyddent oblegyd hyn hanes foreuol y naill y llall, ac nid oeddynt erioed o'r blaen wedi disgyn ar y rhan hon o hynt eu bywyd.

GERARD. A gawsoch chwi fanteision boreuol da?

PENRY. Anarferol dda; nid yn aml y cafodd neb well.

G. Yr oedd eich rhieni yn gyfoethog, ynte?

P. Nac oeddynt. Yr oedd amgylchiadau fy rhieni, er uwchlaw angen, yn eithaf isel, gan ein bod yn deulu lluosog, ac nid oedd gan fy rhieni