Tudalen:Gwaith Gwilym Marles.pdf/48

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ddim i ddechreu eu byd ond yr hyn sy gan ffermwyr bychain yn gyffredin.

G. Yr oedd gennych ryw berthynas cefnog, ynte, i gymeryd atoch?

P. Nac oedd am a wn i. Os oedd, ni ddaeth yr un ymlaen i arddel perthynas pan fuasai reitaf i mi wrthi.

G. Yr ydych yn fy synnu. Hi ddygwyddodd i chwi, efallai, fel y gwnaeth i Samuel Taylor Coleridge pan yn llanc ys llawer dydd? P. Beth oedd hynny? Yr wyf wedi anghofio, os darllenais.

G. O dyna oedd hynny. Pan oedd Coleridge yn llanc tua deuddeg oed, os wyf yn cofio'n dda, yn ysgol Christ's Hospital, yn gydysgolhaig â Charles Lamb a Leigh Hunt, yr oedd un diwrnod yn myned trwy y Strand, heol yn Llundain ag sydd yn wastad yn llawn pobl, fel y gwyddoch, yn llawn myfyrdod a breuddwydion barddonol fel arfer. Wel, yn ddisymwyth dyma ef yn taenu ei freichiau allan ar ddull un yn myned i nofio, pan yn anffodus y daeth un o'i ddwylaw yn agos i logell gwr boneddig oedd yn pasio. Startodd hwnnw, daliodd sylw ar yr hogyn, ac ymaflodd yn ei fraich, gan ddywedyd,—"Ai ie'r gwr bach, yr ydych yn rhy ieuanc eto at ryw waith fel hyn." Gellwch ddychmygu teimladau Sami pan yn cael ei gymeryd fel hyn am un o ladron bychain heolydd Llundain. Safodd fel delw; a phan allodd siarad, dymunodd gennad i egluro i'r boneddwr pa beth oedd yn feddwl oedd yn wneyd ar y pryd. "Meddwl yr o'wn i am 'stori Leander a Hero, ac am Leander yn nofio dwr yr Hellespont (cainc o fôr rhwng Ewrop ac Asia), i