Tudalen:Gwaith Gwilym Marles.pdf/49

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

weled ei gariad, Hero; ac yn wir, syr, ni wyddwn damaid i mi ledu fy mreichiau o gwbl." Cafodd y boneddwr allan mai gwir a ddywedai y llanc, a chymerodd gymaint o ddyddordeb ynddo, fel y bu yn gwylio drosto, ac yn help iddo i fyned i fyny i'r Brifysgol. A fu hi gyda chwi rywbeth yn debyg i hyna?

P. Naddo, yn wir; ni fuais mor ffodus a hyna ychwaith "Cyfaill cywir, yn yr ing ei gwelir;" a gwelais fy rhieni a rhai o'm perthynasau mor garedig i mi ag oedd yn eu gallu i fod. Ond ni ddisgynnodd un gawod o aur erioed i fy arffed i, nac yn fy mebyd, nac ar ol hynny; a mwy na thebyg yn awr yw nas gwna fyth ychwaith, tae fater am hynny.

G. Eto chwi a ddywedwch i chwi gael manteision rhagorol yn fore. Rhaid fod eich tad yn ddyn o ddysg ac archwaeth, a rhyw gymaint o ddylanwad, i'ch cychwyn a'ch cynorthwyo ymlaen?

P. Na, ychydig iawn o ddysg yn ystyr arferol y gair oedd gan 'nhad. Yr oedd yn un o wyth o blant; saith o honynt yn fechgyn, a thrwy chwys eu gwyneb y bwytasai y teulu yn hen fferm gynnes G—— eu bara. Nid llawer o ysgolion oeddynt i'w cael y pryd hwnnw ym mharthau gwledig y deyrnas, yn enwedig rhwng mynyddoedd Cymru, ac nid llewyrchus iawn oedd yr ychydig hynny. Cafodd 'nhad tua'r un faint o ysgol a phlant ffermwyr yn gyffredin: rhyw ychydig o chwarteri yn y gaeaf, pan y gellid hawddaf hebgor ei wasanaeth gartref. Daeth i ddarllen Seisneg, ysgrifenu, a chadw cyfrifon dipyn yn drwsgl. Wedi tyfu i fyny gwelodd ddiffyg ei addysg