Tudalen:Gwaith Gwilym Marles.pdf/50

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

foreuol lawer gwaith, hyd yn nod at lanw ei gylch anghyhoedd ef mewn cymdeithas; a gwnaeth ei oreu, yn ol yr amser a'r cyfleusderau oedd ganddo, i ddiwallu'r diffyg. Cadwai ei gyfrifon yn ofalus, darllenai y Beibl yn rheolaidd bob cyfle oedd ganddo, derbyniai gyhoeddiad misol neu ddau, nid oedd nac yfwr nac ysmociwr, ac yr oedd arno awydd i roi mwy o ddysg i'w blant nag a dderbyniasai ei hun.

G. Dichon fod ganddo lawer, neu, dyweder fagad, o lyfrau, o duedd i ddihuno yspryd darllen ac ymofyn ynnoch, ac i ddwyn allan eich cof, eich dychymyg, neu ryw gynneddf arall mewn modd neillduol. Mae hi wedi bod felly lawer gwaith ychydig o lyfrau i gael eu darllen drosodd a throsodd gan ddyn pan yn ieuanc ydynt yn fynych wedi creu cyffro a ddarfu arwain i bethau mawrion. Dyna, fel engraifft, Iolo Morganwg a Robert Burns; dim ond ychydig o lyfrau y cawsant gyfle i'w darllen pan yn ieuainc, ond gwnaethant yn fawr o'r rhai hynny; ac fel hyn cadwyd fflam ymofyngarwch plentynaidd ar gynn nes y deuwyd o hyd i gynnud gwell.

P. Yn wir, mae yn ddrwg gennyf eich amheu bob tro, ond mae gwirionedd yn gwneyd i mi gyffesu mai lled ysgafn o lyfrau oedd shelves fy nhad. Yr oedd almanaciau llawer blwyddyn yno, llyfr Ficer (argraffiad hen iawn), Hymnau Williams Pantycelyn, Hanes Crefyddau'r Byd Cristnogol, a rhyw dwysged o gyhoeddiadau misol goreu y cyfnod hwnnw. Yr rhai hyn oll a ddarllenais drosodd a throsodd laweroedd o weithiau, ac nid y lleiaf y cyhoeddiadau, y rhai trwy eu hamrywiaeth fuddiol a'm mawr ddifyrrent.