Tudalen:Gwaith Gwilym Marles.pdf/51

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

O'r diwedd daethai y ffugenwau a wisgai yr ysgrifenwyr yn enwau gwirioneddol i'm golwg i, ac yr oedd gennyf ddychymyg lled eglur, er nad oedd ragor na dychymyg, o lun, a maint, ac oedran, ac annedd pob un o honynt.

G. A oedd dim dynion clyfer a gwybodus yn yr ardal i'ch dodi ar ben y ffordd?

P. Gadewch weled. Oedd, yr oedd yno ryw ddau neu dri a dybiwn i ar y pryd yn gryn Solomoniaid. Siaradent lawer ar ryw fath O bynciau ac am ryw fath o awdwyr. Buont yn foddion i dynnu fy sylw innau at yr unrhyw, a dyna'r gwasanaeth mwyaf a wnaethant i mi, gan y cefais allan heb fod yn faith fod eu sŵn yn fwy na'r sylwedd. Am yr ardalwyr yn gyffredin, heb awgrymu yr un amharch iddynt, a chan gydnabod yn llawen a diolchgar eu bod yn perchen ar luaws o rinweddau, nid hawdd fuasai dod o hyd i ddynion mwy diymgais a didaro i holi ar ol ffrwyth pren gwybodaeth.

G. Yr ydych yn hytrach yn ychwanegu o hyd at fy syndod. Cawsoch yn debyg eich danfon i'r ysgol yn dra ieuanc?

P. Do, o'r fath ag ydoedd. Ond nid oedd ond rhywbeth, os dim, gwell na bod heb ddim. Yr hen wr duwiol, yr hwn a gadwai yr ysgol gyntaf y buais ynddi, ei chadw bob gaeaf a wnai, druan, o ran ffasiwn. Ym meddyliau bechgyn a phlant yr ardal, cysylltir myned i'r ysgol â'r meddwl am rew, ac eira, a gwlawogydd llifeiriog. Ces athrawon eraill, ac yn eu plith offeiriad, un o feibion Anac; dyn pwerus, ysgeiddig, nwydwyllt, gwresog, a charedig o galon, hoff o arddu a