Tudalen:Gwaith Gwilym Marles.pdf/52

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ffermo, ond nid wedi ei dorri allan gan ddim os nad gan "dyngedfen ddall" ar gyfer cadw ysgol. Ces athraw ar ol athraw o ryw fath, rhai yn ddrwg a rhai yn waeth, nes i mi fyned at D——. Gwelwn rai o fy nghyfoedion gwell eu byd yn cael eu cymeryd oddiwrthyf i'w danfon i ryw ysgol wir dda; a'r pryd hwnnw do'i un o hymnau yr hen Thomas Williams, Bethesda'r Fro, onide? i fy mryd:—

Adenydd fel c'lomen pe cawn,
Ehedwn a chrwydrwn ymhell,
[I'r ysgol a'r ysgol] yr awn,
I weled ardaloedd sy well.

Ond, fel y dywed y gwr doeth, "Cyfoeth sydd iddo adenydd "—adenydd mewn rhagor nag un ystyr. Nid oedd gennyf fi adenydd, na chyfoeth, na dylanwad i'm cludo i un o ysgolion gramadegol gwir effeithiol y wlad.

G. Maddeuwch i fi, fy nghyfaill, am ddweyd fy meddwl mor eglur. Ond y sicr, yn gwybod am eich safle uchel ac addawus yma yn y Brifysgol, y sylw parod a delir i'r hyn a ddywedwch yn ein cymdeithasau athronyddol, gwyddonol, a dadleuol, y parch a ddangosir tuag atoch gan y pennaf o'r athrawon, ac ymlaenaf dim, yn hyspys, trwy fy hir adnabyddiaeth o honoch bellach, er y cyfarfuom yma, o'ch cyrhaeddiadau, eich dysg, a'ch doniau, disgwyliaswn, pan ofynnais i chwi gynneu, pan ar bwys cofgolofn yr anfarwol Nelson, glywed eich bod wedi bod yn fwy ffodus na'r cyffredin yn eich addysg foreuol a'ch dygiad i fyny.

P. Yr ydych, yr wyf yn ofni, yn rhy ffafriol eich barn am danaf. Ond darfu i chwi arfer y gair