Tudalen:Gwaith Gwilym Marles.pdf/53

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

"ffodus." Yn awr, yn ystyr arferol y gair, ni fuais o gwbl yn ffodus. Eto, i mi gael egluro fy hun, a dweyd teimlad fy nghalon wrthych, fel fy nghyfaill mynwesol, yr wyf yn cyfrif, mewn ystyr uwch a rhagorach o'r gair, i mi fod yn ffodus iawn. A dyma'r rheswm pam. Er nad oedd 'nhad ond dyn mewn amgylchiadau digon cyffredin, ac wedi derbyn addysg o'r fath fwyaf cyffredin, yr oedd 'nhad yn ddyn da, o egwyddor gywir; yn ddyn gonest, anrhydeddus; o rodiad diargyhoedd; o gymeradwyaeth gyffredinol yn yr ardal; o awdurdod moesol nerthol yn ei deulu a'r gymydogaeth; yn ddyn, mewn gair, ag yr oedd llawer o nerth cymeriad yn perthyn iddo. Yr oedd yn feddiannol, mewn graddau na welais yn aml, ar symlder neu blaender egwyddorol. Nis goddefai ffug, na rhagrith, nac ymddangosiad gwag ynddo ei hun, nac mewn eraill agos ato. Yr oedd yn geryddwr llym o dwyll a dichell. Dywedai yn fynych, "Byddwch yn drue, 'mhlant i." Ac hefyd, "Mae yr hyn sy werth ei wneyd o gwbl yn werth ei wneyd yn dda." Nid oedd dim yn gasach ganddo na'r hyn a adnabyddir yn y wlad dan yr enw rogri (roguery). Ni oddefai neb segur o gylch y tŷ. Arferai pob un o'i blant i fod yn ddiwyd, o'r lleiaf hyd y mwyaf; rhoddai ryw waith cymhwys iddo i bob un. Gweithiwr o egni oedd ef ei hun, a rhedai ei yspryd trwy yr holl dŷ. Nid yn unig yr oedd yn ddyn moesol, fel y dywedir, ond yn ddyn crefyddol; yn ddyn o ddefosiwn pur a dwfn, llawn o barch at bethau crefyddol. Cadwai weddi deuluaidd yn gyson, a gwnelai hyn gyda mawr hyfrydwch, a barnu wrth ei ddull. Fel y dywedais o'r blaen, yr oedd