Tudalen:Gwaith Gwilym Marles.pdf/54

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

yn hollol syml ei arferion, cymedrol i'r pen, heb wybod beth oedd gloddest nac wtres o un math. Rhwng pob peth, gwn eich bod yn fy neall heb eglurhad pellach, yr oedd awyr foesol a chrefyddol fy nghartref yn iachus a chryfhaol i anadlu ynddi. Fel y dywedwn am ambell i ffermdŷ ei fod yn wynebol at yr haul, felly yr oedd y teulu hwn yn wynebol yn gyfoethog at Dduw. Fel hyn ystyriaf bob amser fy mod wedi fy ngeni yn dda; wedi bod yn ffodus yn ngwir ystyr y gair; wedi cael, wedi'r cwbl, y manteision pennaf, goreu i ddyn, fel dyn ar y ddaear ac etifedd anfarwoldeb. Felly, os gofyn neb i mi ar unrhyw amser, pa fanteision a gefais, fy ateb yw, "Mi a gefais y manteision goreu."