Arafa ennyd rwysg dy daith
I hynaws draethu'th hanes.
O ble y deilliaist allan?
O ba ryw oror eirian?
Pa beth a'th yrrodd gyntaf o
Dra hoenus fro dy hunan?
A'i 'n amser dig wrthryfel
Rhyw echdwr croes i ochel,
Y crwydraist ar dy hynt am hedd,
Nes deuai'th sedd yn dawel?
Sawl un o honoch heno
Drwy'r nwyfre bur sy'n hwylio?
Ai plant ieuangaf nefoedd y'ch
Mewn nwyf di-nych yn nofio?
Ple bu dy gwrs hyd yma?
Pa olygfeydd hawddgara
A wne'st yn oleu? Ar ryw bryd
A welaist geinfyd Gwynfa?
O! beth am y planedau
A'r sêr, ynt megys blodau
Hyd eang faes y nef yn frith,
A thi 'n eu plith yn chwarau?
A ydynt breswylfaoedd?
A welaist o'th ucheloedd
Ar wastad lawr a chribog fryn
Wedd bodau yn y bydoedd?
I ble mae mwy dy dynfa?
A chwili am orffwysfa?
Ai ynte teithio'th dynged fydd
Nes gwawrio'r dydd diwedda?
Os wyt ti ar ymado,
Pa bryd y deui eto?