A gawn ni weled byth dy wedd Cyn troi i'r bedd i huno?
A raid i oesau meithion Droi ar eu mud olwynion Cyn gwelir ol lle'r wyt yn awr A dwyre o'th wawr dirion?
Yn iach it, seren hyfryd! Y llaw sy' nawr yn ddiwyd, Nad bryd y delot ar dy hynt, A wywa'n gynt i'r gweryd.