Tudalen:Gwaith Gwilym Marles.pdf/64

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Y PARCH. JOHN EDWARD JONES.

Ebrill 1866.

YN esmwyth a diboen aeth y gwr da hwn i'w hir orffwysfa, dydd Sabbath, Chwefror 25. Dechreuasai ei iechyd ddadfeilio er ys tua dwy flynedd, ac ymneillduasai o ofalon ei swydd er ys tuag wyth mis. Darfu i'w farwolaeth, er nad yn annisgwyliadwy, daenu galar trwy gylch helaeth o gyfeillion a chydnabod.

Ganwyd ef yng Nghaerfyrddin, Gorffennaf 7, 1801. Pan y blentyn, amlygai dalent neillduol i ddysgu, ac yn dra ieuanc, aeth i Ysgol Rammadegol, ag oedd y pryd hwnnw, ac am gryn amser wedi hynny, mewn cysylltiad â'r Coleg Presbyteraidd yn y dref, yr hon a gedwid gan y Parch. David Peter, prifathraw y Coleg. Oddi-yno. pan yn un ar bymtheg mlwydd oed, derbyniwyd ef i'r Coleg. Y pryd hwn Trindodwr oedd o ran ei olygiadau. Yr oedd ei dad yn henadur neu ddiacon yn eglwys Heol Awst. Heb fod yn hir ar ol ei fynediad i'r Coleg, aeth ei olygiadau duwinyddol o dan gyfnewidiad, a chyn. fod ei amser ar ben yr oedd yn Undodwr proffesedig. Buasai ei berthynasau ar du ei fam, yr hon oedd wraig ddeallus iawn, ac a fu fyw i oedran teg, erioed â'u gogwyddiad at Ariaeth—cred a goleddid gan ddosparth lluosog yn hen eglwys barchus Heol Awst yr adeg honno, ac am lawer o flynyddoedd yn flaenorol. Yn ffodus, teyrnasai y fath synwyr a theimlad da yn ei artref, fel na ddarfu i'r cyfnewidiad hwn effeithio dim ar ddedwyddwch y teulu. Y Parch. D. Lewis Jones,