Tudalen:Gwaith Gwilym Marles.pdf/65

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

o Glunadda, Undodwr trwyadl, oedd yr ail athraw yn y Coleg yr amser hwn. Wedi treulio pedair blynedd fel myfyriwr yn y Coleg, ymsefydlodd ym Mhenybont ar Ogwr, i gymeryd gofal yr eglwys yn y dref honno, ynghyd â'r eglwys yn y Bettws, lle ryw bum milldir oddiyno. Dymuniad y Dr. Abraham Rees, yr hwn a gymerasai ddyddordeb neillduol ynddo fel myfyriwr, oedd iddo fyned i Wrexham, lle y pryd hwnnw yr oedd hen gynulleidfa Bresbyteraidd. Nid oedd ond prin un-ar-hugain oed pan ddechreuodd ar ei weinidogaeth. Yn Saesneg, yn bennaf, y pregethai ym Mhen y Bont, ac yn Gymraeg yn wastad yn y Bettws. Ymddengys iddo agor ysgol yn y dref tua'r un amser, yr hon a ddygodd ym mlaen am dros ugain mlynedd, hyd nes iddo ymuno mewn priodas â Miss Jenkins o'r dref honno.

Ac ysgol odidog a fu ganddo. Yr oedd yn feddiannol ar ddawn helaeth fel ysgol—feistr, fel y tystia llawer o'i hen ysgolheigion heddyw yn fyw. Yr oedd ei ddull mor bwyllog a thirion, dodai ei feddwl allan mor glir a phwrpasol, a chariai ym mlaen ddisgyblaeth mor dyner, eto manwl, fel ag y deallwn iddo fod yn llwyddiannus iawn fel addysgydd, a theilwng o gael ei restru gydag athrawon goreu y dywysogaeth. Arferai tua'r amser hwn draddodi darlithiau chwarterol ar seryddiaeth, gyda chymhorth y Magic Lantern, yr hyn oedd beth newydd yn ein gwlad y pryd hwnnw. Nid oedd dim a dueddai i wella a diwyllio pobl ieuainc y dref a'r gymydogaeth nad oedd ef gyda'r blaenaf yn ei bleidio. Pan ddaeth y sôn am y Mechanics' Institutes, o gychwyniad