Tudalen:Gwaith Gwilym Marles.pdf/66

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Dr. Berkbeck ac Arglwydd Brougham, gyntaf i'r wlad, cymerodd ddyddordeb mawr ynddynt, a bu yn foddion i sefydlu un yn ei dref ei hun, gyda'r hon y parhaodd yn ffyddlon hyd y diwedd, ac i'r hon yr oedd yn is—lywydd ar adeg ei farwolaeth. Cofiwn yn dda anerchiad bywiog o'i eiddo i'r myfyrwyr yng Nghaerfyrddin, ar ddiwedd yr arholiad yn 1853; cofiwn pan yr anogai ni i lafurio am wybodaeth gyffredinol fel ag i gadw ym mlaen gydag oes y Mechanics' Institutes, ac i fod yn alluogi luosogi y sefydliadau rhagorol hyn, a'u gwneyd yn fwy effeithiol.

Yr oedd yn ysgolhaig rhagorol, ac o chwaeth ac arferion ysgolheigaidd. Dilynasai ei efrydiaethau o'r higher Mathematics yn unig o serch at y wyddor. Yr oedd yn ddarllenwr helaeth a myfyriwr dwfn mewn duwinyddiaeth. Carai ymgydnabod â phob gwaith o bwys a gyhoeddid ar dduwinyddiaeth, nad pa olwg neillduol a gymerid. Nid yn aml y deuid o hyd i feddwl mor ddiragfarn, ac mor abl, o ganlyniad, i edrych ar olygiadau gwahanol i'r eiddo ei hun, o safle neillduol y rhai a'u dalient. Yr oedd mor gadarn ag oedd bosibl yn ei syniadau philosophyddol a duwinyddol ei hun, ond medrai wrando yn deg a phwyllog ar olygiadau hollol wrthwynebol. Yr oedd ei ddeall yn gryf a goleu a disgybledig, a rhagorai fel rhesymwr. Yr oedd ganddo lywodraeth ryfeddol arno ei hun. Ni oddefai i dymer a ffansi ei gario ymaith. Medrai dewi. Ni fu yn gyffredin neb rhyddach oddiwrth ysfa i lefaru ac ysgrifenu. Myfyriodd lawer ar ieithoedd gwreiddiol y Beibl. Yr oedd yn hyddysg neillduol yn yr Hebraeg, a thra chyfarwydd yn nheithi ei iaith ei hun