Tudalen:Gwaith Gwilym Marles.pdf/67

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ac eiddo yr ieithoedd Celtaidd cyd-drasol, yn enwedig y Llydawaeg. Apelid ato yn fynych ar faterion ieithyddol ac hynafiaethol, a bu droion yn feirniad ar destynau mewn llenyddiaeth gyffredinol a barddoniaeth. Yr oedd er ys blynyddau lawer wedi ei apwyntio gan y Bwrdd Presbyteraidd yn Llundain yn Arholydd yn y Coleg, yn enwedig mewn Hebraeg a Mesuroniaeth. Yn y swydd bwysig hon rhoddai foddlonrwydd cyflawn i'r Bwrdd ac i'r myfyrwyr. Ni chlywsom fyfyriwr erioed yn achwyn arno fel arholydd angharedig neu fympwyol, neu un-ochrog. Am rai misoedd ar ol marwolaeth y Dr. Davies, o Ffrwd y Fal, cydsyniodd â chais y Bwrdd i fod yn athraw mewn Hebraeg a Mesuroniaeth, ac ni welwyd gwell grân erioed ar y dosparthiadau yn y canghenau hynny nag yn yr arholiad canlynol.

Ond ei brif wasanaeth i'r enwad Undodaidd a fu mewn cysylltiad â'r Ymofynydd. Yr oedd angen hir a gwaeddfawr wedi bod am gyhoeddiad i egluro ac amddiffyn golygiadau duwinyddol y blaid hon, tra yn rhydd i ysgrifau ar bob ochr bynag i unrhyw bwnc. Yn unfryd ac unllais ymddiriedwyd yr olygiaeth iddo ef, a gwasanaethodd hi yn ffyddlawn am dros dair blynedd ar ddeg. Dechreuodd y gyfres gyntaf yn Medi, 1847, a diweddodd yn Ebrill, 1854. Dechreuodd yr ail gyfres Ionawr, 1859, a diweddodd, oblegyd ei lesgedd cynyddol ef, ym Mehefin y flwyddyn ddiweddaf[1] . Fel golygydd yr oedd yn gall a phwyllog a boneddigaidd, ac mor amhleidiol ag i allu dal y glorian mor deg fel nad oedd gan neb

  1. 1865.