Tudalen:Gwaith Gwilym Marles.pdf/68

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

sail gyfreithlawn i'w feio ef yn ei swydd. Credwn nad ysgrifenodd air fel golygydd y dewisasai yn ddiweddarach ei alw yn ol. Yr oedd ei erthyglau bob amser yn werth eu darllen ac yn ddarllenadwy; ei arddull yn rhwydd a llithrig, eglur a hollol ddiaddurn. Hawdd canfod bob amser fod ganddo afael sicr ar ei bwne, ac mai o helaethrwydd ei wybodaeth yr ysgrifenai. Pan derfynwyd y gyfres gyntaf o'r Ymofynydd yn 1854, yn hollol groes i'w ddymuniad ef y bu hyn; a phan ail-gychwynwyd yn 1859, siriol ymgymerodd â'r olygiaeth drachefn.

Fel pregethwr, nis gellir dweyd iddo fod yn llwyddiannus iawn, yn ol y safon gyffredin i farnu. Yr oedd ei bregethau yn llawn synwyr, ymresymiad, a nerth, a hoffid ef yn fawr gan yr ychydig deallus. Eto yr oedd cymaint o arafwch a thawelwch yn ei draddodiad, fel na lwyddai i dynnu sylw na chyffroi teimladau y lluaws. Pregethau i'w darllen ac nid i'w gwrando oedd ei bregethau ef yn bennaf. Ni roddwyd pob dawn i un. Dylid crybwyll ei fod yn gyfarwydd iawn â gwleidiadaeth, ac yn cymeryd dyddordeb mawr ynddi, yn lleol a chyffredinol. Yr oedd ei gryn odeb gwleidyddol yn yr Ymofynydd yn wastad yn wir werthfawr. Yn ei dref ei hun yr oedd yn is-gadeirydd i'r Board of Guardians, ac aelod o' Bwrdd Iechyd am flynyddau meithion, a gwnai e; ddyledswydd yn ffyddlawn a medrus ym mhob un o'r ddau. Llwyddai yn fynych trwy ei yspryd mwyn i gymodi pleidiau gwrthwynebol á'u gilydd.

Er ei holl ragoriaethau, a chyda rhai diffygion —pwy sydd hebddynt ?—mae lle ein tad a'n