Tudalen:Gwaith Gwilym Marles.pdf/69

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

cyfaill ymadawedig yn wâg. Mawr welir e eisiau. Mae ei golli ef yn fwlch ychwanegol, ac yn fwlch mawr yn ein rhengau. Dilynodd ar hyd yr un llwybr â llu o'i gyd—lafurwyr, rhai yn hŷn a rhai yn ieuengach, ag ydynt yn ystod ychydig o flynyddoedd wedi ein gadael: Peter Joseph, Rees Davies, John Davies (Llwynrhydowen,) John Jeremy, Dr. Lloyd, Titus Evans, John Jones, Owen Evans, a David Benyon. Gorffwysant oddiwrth eu llafur, a neb eto ar eu hol yn llanw lle llawer ohonynt. Gweddiwn ar Arglwydd y cynhaeaf i ddanfon gweithwyr newyddion. Mae digon o ddefnyddiau yn ein heglwysi ond iddynt gael magwraeth a chefnogaeth briodol.

Claddwyd gwrthddrych y cofnodion hyn yng Nghaerfyrddin, ei dref enedigol, a thref a garai yn anwyl.

"Into the eternal shadow
That girds our life around,
Into the infinite silence
Wherewith death's shore is bound,
Thou hast gone forth, beloved!—
And it were wrong to weep
That thou hast left life's shallows,
And dost possess the deep."