Tudalen:Gwaith Gwilym Marles.pdf/70

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ANNERCH CYFAILL

I'r Parch. Rees Jenkin Jones ar ei briodas â
Miss Anne Griffiths, "The Poplars," Aberdar.[1]
DAETH terfyn ar dy weddwdod, gyfaill, do,
Er iti yn ei fwynder oedi tro;
Braidd tybiais y doi adeg i dy gwrdd
O luest gweddwdod i dy symud ffwrdd,
Ond y mae newid ar feddyliau dyn—
Ansicrwydd â'i gynlluniau oll yn nglyn.

Dy ganwyll unig hir yn llosgi bu
Ar fychan fwrdd, trwy lawer gaeaf du;
A thi'n myfyrio yn dy feudwy gell
Ar ryw ddyrysbwnc o olrheiniad pell;
Llais tyner benyw gyda'i ryfedd swyn,
Na chri teg faban yn ei hwyrol gwyn,
Ni thorrai fyth ar y distawrwydd prudd,
Gan godi gwrid o obaith ar dy rudd.

Ond, medd hynafol ddysg, mae angel llon
I bob un enir ar y ddaear hon,
'Roedd ar dy gyfer dithau, gyfaill cu,
Ac agos atat am flynyddau bu,
Heb it' ei hadwaen fel 'd angyles di;
Ond bellach adnabuost, hawliaist hi.

O pa mor fynych bydd hi yn y byd,
Dau fywyd fel dwy gomed, wibiog fryd,
Yn hwylio ar draws yr eangderau maith,
A deddf atyniad dirgel wrth ei gwaith,
Nes cwrdd ynghyd, nes uno'u llwybrau hwy
Trwy gyfraith serch yn anwahanol mwy.


  1. Bu farw Mrs Anne Griffith Jones Mawrth 7fed, 1899, yn 46 mlwydd oed.