Tudalen:Gwaith Gwilym Marles.pdf/72

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

LLYFRAU.

DYWEDIR ddarfod i Xerxes brenin Persia, pan wedi gwneyd prawf o bob pleser adnabyddus iddo, a laru arnynt oll, ofyn yn bryderus, "Pwy a ddyfeisia i mi bleser newydd?" Ein hateb ni iddo a fuasai "Darllen;" pleser na wyddai y teyrn, yn debyg, ond ychydig am dano, a phleser amgenach ddigon na llusgo byddinoedd amrosgo o slafiaid milwraidd ar ei ol o wlad i wlad i oresgyn a difrodi, lladd a llosgi.

Erbyn heddyw y mae llyfrau wedi dyfod i raddau helaeth yn rhan anhebgorol o ddodrefn ein tai yn y wlad hon. Teimlir hyn gan ein gweithwyr deallus ac ymofyngar yn gymaint â chan neb pwy bynnag. Barna llawer o'n ieuenctyd, trwy drugaredd, pan anturiant i'r sefyllfa briod— asol, ei bod hi yn hytrach o fwy pwys i gael ychydig o seldau llawn o lyfrau yn eu tai wrth ddechreu eu byd, na rhesi o seldau wedi eu gwisgo yn daclus à llestri o amryw liwiau, na ddefnyddir efallai deirgwaith mewn oes. Gwelir llawer o'n pobl ieuainc yn rhwymo eu cyhoeddiadau misol yn gyfrolau hylaw, ac yn pwrcasu geiriadur, esponiad, cyfrol neu ddwy o farddoniaeth, gramadeg Cymraeg, gramadeg cerddorol, cyfrol neu ddwy ar hanesiaeth, a chyfrolau ereill yn ol yr archwaeth neillduol. Weithiau hefyd yn gymysgedig â gweithiau Cymreig cawn lyfrau da a buddiol yn yr iaith Seisneg, megys, Evenings at Home, Prydyddwaith Cowper, rhai cyfrolau o Watts neu Channing, Uncle Tom's Cabin, Smiles ar Self-Help—llyfr, gyda llaw, ag sydd grynodeb o'r ffeithiau. mwyaf addysgiadol ac anogaethol i ieuenctyd.