Tudalen:Gwaith Gwilym Marles.pdf/73

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Mae hyn oll fel y dylai fod, ac yn ddechreuad cyfnod llawn o addewid yn ein gwlad.

Er y pryd, yn 1473, y gosododd William Caxton i fyny yr argraffwasg gyntaf yn Lloegr, yn Nghysegr Westminster Abbey, rhyfedd y cyfnewidiad sydd wedi cymeryd lle mewn llenyddiaeth ac mewn gwareiddiad yn gyffredinol. Hyd yn hyn nid oedd wrth reswm ond llyfrau ysgrifenedig; a hawdd deall mai gorchwyl arat a chostus iawn oedd copïo cyfrolau meithion. Yr oedd gan y mynachod, y rhai oeddynt y prif ysgrifenwyr yn yr hen amser, gryn lawer o hamdden ar eu dwylaw; eto cyfyngedig iawn oedd nifer y llyfrau a danysgrifid, ac i'r mynachdai y perthynent, ac nid i'r werin. Nid oedd ond y dosparth clerigol yn ymyrryd â llenyddiaeth; i'r werin yr oedd ei chynyrchion gwerthfawr yn ffrwyth gwaharddedig. Os o ddigwyddiad y medrai rhai o'r bobl ddarllen, ac y dymunent wneyd hynny, yr oedd pris y copiau ysgrifenedig yn rhy uchel iddynt eu pwrcasu heb yr aberth fwyaf. Buasai raid i weithiwr dreulio cyflog gyflawn dwy flynedd er gallu prynu un copi o Destament Seisneg Wycliffe, a'i holl gyflog am bymtheg mlynedd cyn gallu dyfod i feddiant of Feibl cyfan. A thrachefn, wedi i'r gelfyddyd o argraffu gael ei dyfeisio, nid oedd o gymaint gwerth tuag at radloni cyfryngau gwybodaeth, nes y deuwyd o hyd i ddefnydd rhad i argraffu arno. Dygwyd y gelfyddyd o wneyd papyr o garpiau o'r Dwyrain gan y Croes-gadwyr yn amser Edward I., ond aeth rhyw gan mlynedd a chwarter heibio er amser Caxton cyn i'r felin bapyr gyntaf gael ei gosod i fyny mewn lle o'r