Tudalen:Gwaith Gwilym Marles.pdf/74

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

enw Dartford, yn Kent. Erbyn hyn y mae'r llawweithfeydd papyr gyda'r rhai pwysicaf yn y wlad. Cynullir yn ofalus holl garpiau'r wlad ynghyd—nid oes wisg bwbach yn rhy wael—a gwneir o honynt ddefnyddiau ysgrifenu ac argraffu, y rhai ydynt ddiarhebol am eu rhadlondeb. A rhwng pob peth, ni fu llyfrau yn ein gwlad erioed mor gyrhaeddadwy ag ydynt yn awr, fel ag y mae pawb, mor bell ag y mae a fynno'r pris, yn ddiesgus, os yr esgeulusant ddarllen. Yng Nghymru nid yw llyfrau mor rhad ag mewn gwledydd eraill, neu mor rhad ag ydynt yn Lloegr, am nad yw y cylchrediad ond bychan mewn cymhariaeth; ond hyd yn oed yma gyda ni nid oes le i achwyn, ac y mae gennym bob amser le i nesu hwnt i helpu ein hunain o lenyddiaeth doreithiog ein cymydogion y Saeson.

Ni a fostiwn weithiau ym mhurdeb y wasg Gymreig, gan feddwl wrth hynny bod ein llenyddiaeth yn rhydd oddiwrth gyhoeddiadau anffyddaidd, anghysegredig, ac anllad, y fath ymddangosant mewn cryn gyflawnder, yn enwedig ar brydiau, yn yr iaith Seisneg. Hyn sydd wir ffaith, a da iawn gennym o'r herwydd. Ond, fel ffeithiau pleserau eraill, y mae modd gwneyd gormod o honi, ac i ni gymeryd gormod o glod i ni ein hunain fel cenedl oddiwrthi. Pe yn byw o dan yr un amgylchiadau, ac yn agored i'r un profedigaethau a'r Saeson, nid ydym yn gweled un rheswm dros gredu y buasai ein llenyddiaeth ni yn hyn yn wahanol oddiwrth yr eiddynt hwy. Y ffordd y gwneir gennym yn gyffredin yw priodoli i grefyddolder ein cymeriad cenedlaethol, neu i ddwysder a duwioldeb ein