Tudalen:Gwaith Gwilym Marles.pdf/75

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

hathrawon eglwysig, neu efallai weithiau i ryw ragluniaeth neillduol a ddiogela ein cenedl ni fel "ychydig o enwau" breintiedig, i fod yn esiampl i'r byd o symledd buchedd ac o iachusder athrawiaeth, priodoli i un neu'r oll o'r pethau hyn y ffaith o'r gwahaniaeth hwn yn ein llenyddiaeth ni i eiddo y Saeson a'r Ffrancod a chenedloedd eraill. Ond nad beth am yr ystyriaethau uchod, dilys yw gennym fod ein sefyllfa fynyddig a'n iaith yn ddau brif rwystr o'n tu ni i lenyddiaeth o'r fath. Hyd ddyfodiad y rheilffyrdd yr oedd ein gwlad yn bellenig ac estronol; ac yn awr y mae ein hen iaith fendigedig, mor bell ag nad yw gwybodaeth o'r iaith Seisneg ar ein tu ni yn effeithio cyfnewidiad—canys nid oes raid ofni y rhed y Saeson i ddysgu ein iaith ni—yn fwy o ragfur i ddylifiad heresiau tramor nag a fuasai yr Alps neu yr Himalaya. Oblegid nid ymddengys fod unrhyw swyngyfaredd cenedlaethol yn diogelu y Cymry mwy na chenedloedd eraill rhag heresiau pan y gesyd amgylchiadau hwynt yn agored iddynt. Mae enw Morgan neu Pelagius, o'r bumed ganrif, yr hwn a wrthwyneb— wyd mor egniol gan Augustine a Jerome, yn adnabyddus i bawb. Mynn rhai fod yr hâd drwg hwnnw a hauodd ef heb farw allan o Gymru oddiar hynny hyd yn awr, a bod y nyth bresennol o hereticiaid yn Undodiaid, Ariaid, neu pa enw bynnag a ddygant, yn gywion a ddeorwyd yn y bumed ganrif ganddo ef a'i gyd—lafur wr Coelestius. Nad beth am hynny, dilys yw y dichon i Gymry yn gystal a Saeson droi yn hereticiaid o dan y dylanwadau priodol. Gŵyr pawb mai Cymro o'r Drefnewydd, yn sir Drefaldwyn, oedd y diweddar