Tudalen:Gwaith Gwilym Marles.pdf/76

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Robert Owen, un o'r enwocaf a flagurodd erioed yn rhengau y Secularists. Mae yn ffaith hefyd fod yr Undodiaid yn Lloegr wedi, ac yn parhau i gael rhan luosog o'u gweinidogion o Gymru. Ni chrybwyllwn hyn ond yn unig i ddangos fod y gwaed Cymreig, o ran dim a wyddom ni i'r gwrthwyneb, mor agored ag unrhyw waed arall i'r haint o heresi. Ac i nodi un engraifft dra nodedig arall; nid yw yn debyg i'r Mormoniaid fod yn fwy llwyddianus mewn un wlad nag y buont rhwng mynyddoedd Cymru, ymhith cenedl a ymffrostia gymaint yn ei gwybodaeth o'r Ysgrythyrau. Y casgliad a dynnwn yw, mai i'w sefyllfa ddaiaryddol, ac i wahaniaeth iaith, y mae ein gwlad yn ddyledus am ba burdeb bynnag a hawlir i'n llenyddiaeth ni y tu hwnt i eiddo gwledydd eraill. Yr ydym yn llawenhau fod ein iaith mor rhydd o gyfansoddiadau brwnt a thrythyll, a chrach-feddygol ac anffyddol, ac yn dwys hyderu mai felly y parha hyd yr amser, yr hwn sydd yn cyflym nesu, pan y bydd i ledaeniad y Saesneg ei gorfodi i gilio o'r maes. Eto ni fynnem fod gormod yn cael ei wneyd o'r purdeb honedig hwn. Mae ol bysedd duon y diafol ar lawer dalen yn ein llenyddiaeth ninnau hefyd. Gallasai ef o'r goreu dorri ei enw wrth lawer pamphletyn ac ambell gyfrol a ymddangosodd o'r wasg Gymreig. Ni fu cynifer o ddadleuon enwad-gul, ynfyd-boeth, crach-dduwinyddol yn cael eu cario ymlaen efallai mewn un man nag yn ein cyhoeddiadau misol ni yng Nghymru. Mawr y dirdynu a'r llapreio a wneid ar y Beibl yn yr ymgyrchoedd hyn. Saethai y naill blaid eu bwlets papur, ar lun adnodau, yn ddiarbed at y