Tudalen:Gwaith Gwilym Marles.pdf/77

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

llall o'u cyflegrau bychain. Mae yn debyg na fu crochan y sêl enwadol yn berwi yn ffyrnicach mewn un wlad nag yn y wlad hon ar rai prydiau, fel y tystia luaws o gynyrchion y wasg. Nid o natur bur iawn yw y rhai hyn. Nid arwydd o unrhyw burdeb llenyddol yw y ffregodau, y gor— ganmoliaethau a'r weniaith wrthwyneblyd a ddarllenir gennym mor fynych. A beth am y pregethau annhymig, y traethodau cymysglyd a di-bwynt, y llatheni o bryddestau, o awdlau, ac o gywyddau crai anfarddonol, a'r ugeiniau o hymnau hanner-pan a frithant ein llenyddiaeth? Gall y testyn fod yn dda, tra'r llyfr neu'r cyfansoddiad yn annhraethol o wael. Ac nid llyfrau anllad ac anffyddol, proffesedig felly, yw yr unig rai a wnant niwed. Fel y sylwa Archesgob Whately,—"Mae gweithiau anghysegredig ac anffyddol, a broffesant fod yn gyfryw, y rhai y mae'r oes hon wedi esgor arnynt, yn llawer llai gwenwynllyd na gwaith a broffesa fod yn grefyddol, yr hwn a fo wedi ei ysgrifenu yn y fath fodd ag i gynhyrfu arswvd, a châs, a diystyrrwch, mewn personau o deimlad da ac o chwaeth dda.'

Wedi'r cwbl offerynau yw llyfrau, hyd yn oed y llyfrau goreu; fel os na wyddis y ffordd i'w defnyddio, nid ydynt o un lles. Mae chwaeth a doethineb yn ofynnol wrth ddewis, a dyfal astudrwydd, a gofal, ac ymchwiliad, wrth ddarllen pob math o lyfr. Mae nodiadau Arglwydd Bacon yn ardderchog;—"Mae rhai llyfrau i'w profi, eraill i'w llyncu, a rhyw ychydig i'w cnoi. a'u treulio: hynny yw, mae rhai llyfrau i gael eu darllen yn unig mewn rhan, eraill i'w darllen, ond nid gyda mawr sylw, a rhyw ychydig i'w darllen