Tudalen:Gwaith Gwilym Marles.pdf/78

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

yn llwyr, a chyda diwydrwydd a sylw. Gellir hefyd ddarllen rhai llyfrau trwy ddirprwywr, a thrwy ddetholion a wnaed gan eraill; ond ni ddylai hyn fod ond gyda rhesymau lleiaf pwysig, a'r fath waelaf o lyfrau. . . Mae darllen yn gwneyd dyn llawn, cyd-ymddiddan yn gwneyd dyn parod, ac ysgrifenu yn gwneyd dyn manwl; ac o ganlyniad, os mai ychydig a ysgrifena dyn, dylai fod ganddo gof mawr; os mai ychydig a gyd—ymddiddana, dylai fod yn berchen ar synwyr parod; ac os mai ychydig a ddarllena, dylai feddu llawer o gyfrwysdra, er mwyn ymddangos fel yn gwybod yr hyn na ŵyr." Un o goeth ddywediadau Bacon yw a ganlyn hefyd;—" Wrth ddarllen, yr ydym yn cymdeithasu â'r doeth; yn nhrafodaeth bywyd, yn gyffredin â'r ffol."

Mae llawer o ragoriaeth i'r lleferydd dynol byw ar y llythyren argraffedig farw tuag at ddysgu dyn. Gwir. Ond ar y llaw arall, mae llawer o ragoriaeth yn perthyn i lyfrau fel athrawon. Fel y dywed hen awdwr;—"Llyfrau ydynt athrawon a ddysgant heb na gwiail, na rheolau, na llid." Os ewch i ymofyn a hwynt nid ydynt fyth yn cysgu; os holwn ofyniadau iddynt, nis rhedant ymaith; os gwnawn gamgymeriadau, ni ddifriant ni; os byddwn anwybodus, ni chwarddant am ein pen. Mae un peth er hynny, yn ol Bacon, nas gall llyfrau ei ddysgu i ni, sef yw hynny, y ffordd i iawn ddefnyddio llyfrau. Mae yn rhaid i'r myfyriwr trwy ymdrafod â dynolryw ddwyn ei ddamcaniaethau i ymarferiad, a chymhwyso ei wybodaeth at amcanion bywyd. "Y mae llyfrau da," medd Bacon, drachefn, "yn ystorfa oludog er gogoniant i'r Creawdwr, ac er