Tudalen:Gwaith Gwilym Marles.pdf/79

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ysgafnhad i gyflwr dyn." Pan oedd llyfrau yn brinion mewn cymhariaeth, dywedai Ciceromai "enaid tŷ yw llyfrau." Gan gyfeirio at y cymorth a rydd llyfrau i ni, ac at y parotoad a'r rhagdueddiad a roddant i ddyn i ffurfio barn am bersonau a phethau, dywedai Dryden am danynt mai gwydrau ydynt i ddarllen natur wrthynt. Os bydd y llyfr yn annheg neu aneglur, nis gallwn weled yn eglur; bydd yr effaith yr unrhyw a phe yr edrychem trwy olyg-wydrau lliwiedig. Ond llyfrau da, agorant ein llygaid, cyfarwyddant ein traed, ysprydolant ein calonau. "Dysgant ni," medd Hare, "i ddeall a theimlo yr hyn a welwn, i ddehongli a sillaffa arwydd-luniau y synwyrau." A sylwa Carlyle yn gyffrous:—"Mewn llyfrau y mae yn gorwedd enaid yr holl amser a aeth heibio, llais croew a chlywadwy yr amser a aeth heibio, pan y mae y corff o hono wedi diflanu yn gyfan—gwbl megis breuddwyd." Mae rhai yn hoff o hen lyfrau, eraill yn dotio ar lyfrau newyddion. "Llyfrau ail-law i mi," meddai Charles Lamb, pethau yn perthyn i'r amser a aeth heibio yw llyfrau." Eraill drachefn, nis gwaeth ganddynt ai hen ai newydd y llyfr; os meddyliant y gallant gael adeiladaeth neu bleser, neu bob un o'r ddau, oddiwrtho, darllenant ef yn awyddus. Dyma'r dosparth goreu. Cynwysiad llyfr ac nid ei oedran, ei awdwr, ei iaith, ei bris, na dim o'r fath, sydd i benderfynu ei werth. Ni a ddywedwn wrth derfynu wrth ein darllenwyr ieuainc, "Darllenwch," a chan gofio cyngor Lessing i ddyn ieuanc, "Meddyliwch ar gam os mynnwch, ond meddyliwch drosoch eich hun;" felly y dywedwn ninnau;—Darllenwch lyfrau da hyd y gellwch eu cael, ond yn enw pob peth darllenwch.