Tudalen:Gwaith Gwilym Marles.pdf/81

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

DAN GWMWL.

AR lechwedd meillionog uwchlaw un o'r afonydd bychain a lifant i'r Teifi, safai tyddyndy clyd a glandeg yr olwg, o'r enw Penlan. Yma, ar ol ymuno o honynt mewn glan ystâd priodas, yr aethai Rhys Davies a Sarah Jenkins i drigiannu. Yr oeddynt eill dau yn ieuainc, heb weled ond ychydig o flynyddoedd dros yr ugain. Cawsent y fath addysg bwrpasol a sylweddol ag a dderbynir gan lawer o feibion a merched Ceredigion, yn enwedig yn y rhandir a ymestyna rhwng Teifi a'r môr, yng nghanol—barth y sir. Medrent yr iaith Seisneg yn lled dda; derbynient bapur Seisneg bob wythnos, ynghyd a dau gyhoeddiad misol, un Cymreig ac un Seisneg. Yr oeddynt yn weddol eu hamgylchiadau, yn gymaint â bod i Sarah waddol bychan, a bod tad Rhys yn ffermwr cefnog, a Rhys ei hun yn ddyn ieuanc o ddyfais lew, synwyr cryf, ac o arferion ymröus a chynnil. Cadwai Sarah ei thy yn lân—mor loew a'r swllt, ys dywedai ei mam-yng-nghyfraith. Nid ar ddydd Sadwrn yn unig y meddyliai hi am lanhau ei thy. Cai y llwch yn y gegin ac yn y parlwr hefyd ei symud yn llawer amlach nag unwaith bob wythnos. Mynnai hi awyr ffres yn feunyddiol i bob ystafell, yn neillduol i'r ystafelloedd cysgu. Ni hoeliai y ffenestri i lawr yn dynn, fel y gwna rhai, dan yr esgus o ofn lladron. Credai hi mai y lleidr gwaethaf ym mhob teulu yw afiechyd. Mawr brisiai y bendithion hynny a alwai hen weinidog dysgedig a pharchus yn y sir (yr hwn, ysywaeth, fel y rhan fwyaf o'i gyd-lafur-