Tudalen:Gwaith Gwilym Marles.pdf/82

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

wyr ag oeddynt gyfoedion iddo, sydd er ys blynyddoedd rai wedi tewi yn yr angau) yn rhoddion deheulaw y Goruchaf y pethau mwyaf angenrheidiol i ddyn, tra hefyd y rhataf, sef awyr, dwfr, a goleuni; ac fel yr arferai yr hen wr ychwanegu gyda phwyslais nodedig, yr iechydwriaeth. Curai y ddwy galon ieuanc ynghyd. Yr oedd teimladau cynnes a dedwydd blynyddoedd blaenorol yn para heb oeri yn eu mynwesau. Buasai ddiddanus iawn eu carwriaeth—diwair, diniwed, a phur. Ni fuont wyllt a difwrw, fel rhai, yn eu piodas. Cawsent gydsyniad unfrydol eu rhieni o'r ddwy ochr. Ar ddydd eu priodas ni phroffwydid iddynt ond cysur a hawddfyd gan bawb. Adnabyddid y ddau trwy yr ardal fel o dymer garedig a thangnefeddus, o arferion diwyd, ac o ysbryd crefyddol. Nid ar gyfoeth, nac ar lendid, nac ar fwyniant cnawdol y gorffwysent eu gobaith am gysur yn y dyfodol. Ystyrient fod cyfnewidiad i'r fath elfenau hapusrwydd â'r rhai hyn, a gochelasant adeiladu ar sail mor dywodlyd. Y fath fisoedd, y fath flynyddoedd dedwydd a digwmwl oeddynt rai cyntaf eu bywyd priodasol! Caredigrwydd oedd deddf y teulu. Nid oedd drafferth yn y byd iddynt ddyfod o hyd i weision a morwynion. Hoffai pawb aros yn y lle, gan y ffynnai'r fath gydgordiad rhwng y meistr a'r feistres. Nid slafiaid y mynnent i'w gwasanaeth—ddynion fod, ond ymddygent atynt yn hynaws ac ystyriol. Nid paganiaid ychwaith y mynnent iddynt fod. Cai eu gwasanaethddynion gennad serchog i fyned i'r cwrdd a'r ysgol ar yn ail; pleser mawr oedd ganddynt eu