Tudalen:Gwaith Gwilym Marles.pdf/83

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

gweled yn darllen, ac anogid hwy i hyn pa bryd bynnag yr oedd cyfleusdra yn rhoi. Treiglodd rhyw bum mlynedd fel hyn heibio yn dra dedwydd. Ganed iddynt ferch fechan, yr hon a enwyd ar enw mam y fam yn Margaret. Ym mhen tua dwy flynedd ar ol hyn rhoddwyd i'w gofal fywyd ieuanc arall, mab bychan, yr hwn a alwyd yn John. Cadwai Sarah ei phlant bychain yn lân a thaclus, a dysgai iddynt o'r dechreu wersi syml o ufudd-dod ac o ymddygiad prydferth. Deallai yn dda y fath ddolen gref o serch a chydymdeimlad rhyngddi hi a'i phriod oedd y plant. Arferai ei merch fechan i fyned allan i roesawu ei thad pan ddychwelai o aredig yn y gwanwyn, neu o fedi yn adeg cynhaeaf. Deuai yntau a hi i mewn i'r tŷ, yn ei freichiau, a rhoddai hi i eisedd yn nesaf ato wrth y bwrdd, a charai edrych yn ei gwyneb hardd ag oedd yn ddarlun o dymer dda a serch bywiog ei mam, yn gystal ag o'r eiddo ef ei hun. Ni fynnai yr un fechan adael côl ei thad o'r pryd y dychwelai yn yr hwyr hyd yr amser iddi i gael ei rhoi yn ei gwely bach. Fel y dywedir, y mae yn arferol os oedd yn anwylach gan y rieni am un o'r plant nag am y llall, y ferch oedd hoffder y tad, y mab oedd hoffder y fam. Ond pwy all fod yn sicr o hyn? Gwenai rhagluniaeth arnynt ym mhob modd. Troent swm penodol o arian heibio bob blwyddyn mewn ffordd o ragbarotoad tuagat addysgu eu plant. Nid oedd hapusach teulu trwy yr holl gymydogaeth. Felly y credai y tylwyth-yn-nghyfraith o'r ddwy ochr; a dyna hefyd oedd cred yr ardal yn gyffredin. Braidd nad oedd rhai yn eiddigeddu wrthynt, ac yn