Tudalen:Gwaith Gwilym Marles.pdf/84

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

barod i dystio na fyddent yn hir heb i ryw adfyd neu gilydd i'w goddiweddyd. Gan fod y bywyd dynol yn agored i gyfnewidiadau ar bob pryd, nid oedd raid i broffwydi doethion iawn i wneyd y fath ddarogan a hyn. Pa fodd bynnag, yn y pumed gaeaf o'u bywyd priodasol cododd cwmwl du, yng nghysgod yr hwn y gorfu iddynt ymdroi yn alarus am beth amser. Aethai y fam à John bach yn ei llaw i alw un prydnawn mewn ffermdy cyfagos, lle yr oedd dau o'r plant yn sâl, ond o ba glefyd nis gwyddai hi ar y pryd. Nos drannoeth, ar ddychweliad y tad i'r tŷ, sylwodd nad oedd ei fab bychan mor siaradus a chwareugar ag arferol. Treuliwyd y nos honno ganddo yn lled anesmwyth. Yn y bore, dododd ei law fechan ar ei wddf, fel pe yn achwyn poen yno; deuai rhyw iasau o gryndod drosto ar amserau; yr oedd cur yn y pen; nid oedd eisieu bwyd y bore hwnnw, er fod cri parhaus am rywbeth i yfed. Ym mhen tua dau ddiwrnod sylwodd y fam ar ysmotiau cochion ar y ddwyfron a'r breichiau. Nid oedd bellach le i amheu achos y selni; a phan alwodd y meddyg yn y prydnawn, rhoddodd gyfarwyddiadau ar gyfer y dwymyn goch.

I lawer, mae yn debyg, ymddengys gwaith plentyn yn cael ei gymeryd yn y clefyd cyffredin hwn ond ychydig o beth. Dylid cofio, pa fodd bynnag, mai dyma'r afiechyd cyntaf a ymwelasai a'r teulu; a phrofiad chwerw yw ymweliad cyntaf unrhyw afiechyd â theulu ieuanc. Hwn oedd y cwmwl cyntaf a ddarfu ledu ei dywyllwch drosto. Newidiodd agwedd bob peth trwy y ty. Prudd-der a distawrwydd a deyrnasent yno. Yn lle yr acenion clir a chroew yn y rhai yr arferai y