Tudalen:Gwaith Gwilym Marles.pdf/85

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

gwr a'r wraig ymddiddan â'u gilydd, nid oedd yn awr ond siarad isel cwynfanus, neu sisial pruddaidd. Rhoddai y feistres ei heirchion mewn ton drist, fel un a chalon wedi hanner torri. Yn lle y dull gwrol ac awdurdodol ym mha un yr arferai gwr y tŷ roddi eu dogn benodol o waith i'w weision, yr oedd ei lais yn awr yn egwan a chrynedig. Yn ystod y prydiau bwyd, arferasai pob un fod am y blaenaf gyda rhyw newydd diniwed, neu 'stori lawen, neu air digrif; canys nid y rheol yn y teulu hwn fuasai ceisio dirgymhell rhyw undonrwydd Phariseaidd ac wyneb-bruddaidd ar neb o gylch y tŷ; ond yn awr cydymdeimlent oll â'r ddau oeddynt drwm eu calon, a gwelent eisieu yr un bychan ffraeth wrth y bwrdd. Braidd y gallesid gwybod adeg boreu-bryd, na chiniaw, na swper, oni buasai yr ychydig drwst a gedwid wrth eistedd a chodi, a swn hoelion mawrion yr esgidiau trymion fel y disgynnent ar balmant y gegin a cherrig y drws wrth ddyfod i mewn a myned allan. Symudai y fam yn wylaidd a chrynedig trwy y tŷ, yn angel trugaredd, yn chwilio am rywbeth a dybiai a allai fod er esmwythâd i'w hanwyl un. Yna eisteddai wrth ochr ei wely bychan, gan blygu uwch ei ben, a cheisio ennill gair, neu wên, neu edrychiad a fuasai iddi hi yn fwy o werth na'r byd y pryd hwnnw: ond i ddim diben. Yr oedd ei bachgen ym man gwaethaf y clefyd; y dwymyn. yn yr amgylchiad hwn yn drymach na chyffredin; yn wir yr oedd y bywyd yn y glorian. Ceisiai y tad ddilyn ei waith allan, ond mynych mynych y dychwelai i'r tŷ, a phryder yn argraffedig ar ei wedd, i roi tro i mewn i'r ystafell, ac i edrych