Tudalen:Gwaith Gwilym Marles.pdf/86

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

yng ngwyneb ei un bychan na wnai yn awr un sylw o hono. Treuliai lawer awr gyfan yn y tŷ, yn eistedd wrth y ffenestr, gan ddarllen weithiau y Beibl, ac weithiau ei hymnau dewisol. Cafwyd y dail wedi eu plygu ar lawer rhan o'r Beibl a ddygai gysur iddo yn ei drallod, megys ar y mannau canlynol.

"Ni'th roddaf di i fyny, ac ni'th lwyr adawaf chwaith."

"Deuwch ataf fi bawb a'r y sydd yn flinderog ac yn llwythog, a mi a esmwythaf arnoch."

Pwy bynag a ddêl, nis bwriaf ef allan ddim." "Gwyn eu byd y rhai sydd yn galaru, canys hwy a ddiddenir."

Yr wyf yn gadael i chwi dangnefedd; fy nhangnefedd yr wyf yn ei roddi i chwi. N thralloder eich calon, ac nac ofned."

"Adfyd a chystudd a'm goddiweddasant; a'th orchymynion di oedd fy nigrifwch."

"Cyfyd goleuni i'r cyfiawn yn y tywyllwch." "Hauwyd goleuni i'r cyfiawn, a llawenydd i'r rhai uniawn o galon."

Ar y dydd Sabbath pan oedd ei phlentyn wannaf, a phan oedd y distawrwydd trwy y tŷ, tywyllwch yr ystafell, am y cedwid y gorchudd dros y ffenestr, ynghyd â phrudd-der dwfn ei phriod, wedi bron hollol orchfygu ei chalon; mor fynych ag y caniatai ei dagrau a'r mân ddyledswyddau o serch y galwai ei un bychan am danynt iddi wneyd, darllenai y fam rai o'r hymnau hynny ag y mae cystudd, fel y gwnai gwialen Moses gynt dynnu dwfr o'r graig, bob amser yn peri i ryw ystyr newydd a llawnach nag o'r blaen i lifo allan o honynt. Yn eu plith yr oedd y rhai hyn :—