Tudalen:Gwaith Gwilym Marles.pdf/87

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Trwy droiai'r byd, ei wên a'i ŵg,
Bid da, bid drwg y tybier,
Llaw Duw sy'n troi'r cwmpas—gylch glân,
Yn wiwlan er na weler."

"Er na weler," meddai, gan ail fyned dros y geiriau.

"Ei gysur Ef sydd yn bywhau
Y pennau gogwyddedig,
Fe sych a'i law y llif sy'n gwau
Dros ruddiau'r weddw unig."

Darllenodd lawer gwaith drosodd y Salm odiaeth honno yn "Salmau yr Eglwys yn yr Anialwch ":—

"Pwy, lle chwiliaf eitha'r bydoedd,
A gaf imi'n gysur byw?
Pwy sydd gennyf, drwy'r holl nefoedd,
Pwy'n amgeledd ond fy Nuw?
Caf ei gariad pur am danaf,
Ym mhob amser, ym mhob lle;
Ar y ddaear ni 'wyllysiaf
Imi'n gyfaill ond y fe."

Ar ol bod yn darllen fel hyn eill dau am dro hir yng ngoleuni gwannaidd un o brydnawnau cymylog y rhan olaf o fis Rhagfyr, ag oedd yn ddarlun cywir o'u teimladau trallodus hwy, aethant eill dau at wely y claf, edrychasant arno, ac yna cyn troi ymaith digwyddodd i'w llygaid gyfarfod, gan lefaru mwy nag a allasai y tafod lefaru, a gorfu iddynt fyned o'r neilldu i roddi rhydd ollyngdod i'w teimladau llwythog.

Hwn fuasai y dydd trymaf eto. Ond pan ryddo hi dywyllaf, mae y wawr ar dorri. Pan alwodd y meddyg drannoeth dywedodd fod y gwaethaf drosodd; a bod gobaith cryf bellach am adferiad graddol John. Eto, ofni a wnai y tad a'r fam, nes gweled arwyddion mwy eglur. Yn